Saturday, September 20, 2008

Digon dwl i drochi dros Dewi?

Digon dwl i drochi dros Dewi? - Dewch i Drochi i Dewi - Dydd Gwyl Dewi, Dydd Sul, Mawrth y Cyntaf 2009

R’ydw i’n edrych am Gymry sydd yn ddigon dwl i ymuno gyda fi Dydd Sul, Mawrth y Cyntaf 2009 yn Boston i weddio, fel mae rhai yn dweud oedd Dewi Sant arfer gweddio – yn sefyll yng nghanol y mor neu afon gyda’r dyfroedd i fynu at eu gwast.

Ie dyna chi, sefyll yn y dyfroedd i fynu at eu gwastiau yn Lloegr Newydd (New England) Pam? 1) I gael gymaint ag sy’n bosib o Gymru gwallgof, mynachaidd a Celtoffeiliaid i neidio mewn i’r afon a dathlu Dydd Gwyl Dewi fel fydde Dewi wedi gwerthfawrogi, 2) i gael Y Wasg i droi fynu ar gyfer y foment wallgof yma sy’n edrych fel cymysgedd o Glwb Yr Eirth Pegynol, asgetigiaeth mynachaidd a Dydd San Padrig, a 3) i roi Cymru, Nawddsant Cymru a Gwyl Gendlaethol y Cymru yma ar y map yn yr Unol Daleithiau (hyd yn oed ymhellach?) a 4) i gael clonc a diod yn y dafarn gyda chyfeillion yn dilyn y weddi rewllyd gyda ffrindiau annwyl.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch a fi yn pastorphil@salemgathering.com

Dwi’n edrych am bobl gwallgof sydd eisiau cael tipyn o sbort, ac sydd hefyd eisiau helpu i hybu Cymru a’r iaith Gymraeg

Oes gennych chi ddiddordeb i drefnu eich achlysur ‘Digon dwl i drochi dros Dewi eich’ hunan? Efalle allwn ni gyd-lynnu symudiad o seintiau sy’n crynu!


Phil Wyman
Salem, Massachusetts
pastorphil@salemgathering.com

translation by Gwenno Dafydd